P-05-977 Ailagor gwasanaethau deintyddol cyffredinol llawn yng Nghymru fel sydd wedi digwydd yn Lloegr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Andrew Bartley, ar ôl casglu cyfanswm o 7,583 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar 23 Mawrth, caewyd gwasanaethau deintyddol cyffredinol ar gyfer popeth heblaw am gyngor, gwrthfiotigau, poenladdwyr ac echdyniadau syml.
Ar 8 Mehefin 2020, caniatawyd i bractisau yn Lloegr ailagor ac
roedd lefel y gwasanaeth yn seiliedig ar eu gallu i gydymffurfio
â phrotocolau gweithredu diogel.
Gwrthodir y cyfle hwn i gleifion a deintyddion yng Nghymru ac amcangyfrifir y bydd y gwasanaeth "arferol" yn ailddechrau ym mis Ionawr 2021.
Gwrthodir y cyfle i gleifion gael mynediad at driniaeth briodol yng Nghymru. Gwahaniaethu yw hyn ac mae’n rhaid iddo ddod i ben.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Bydd practisau mor ddiogel â phosibl. Hefyd, mae pwysau ariannol anferth arnynt a all olygu y bydd yn rhaid i lawer ohonynt gau, gan waethygu problemau mynediad.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· De Caerdydd a Phenarth
· Canol De Cymru